Rhanbarthau astudiaeth achos
Roedd y rhanbarthau astudiaethau achos (Ffigur 4) yn homogenaidd o ran amodau bioddaearyddol a mathau o ffermio. Maent yn cwmpasu ffermio organig dwysedd isel i ganolig, a ffermio anorganig; ni chafodd ffermio confensiynol dwys iawn, cynhyrchu anifeiliaid ar raddfa ddiwydiannol, ac ati eu cynnwys. Ym mhob rhanbarth, dewiswyd 14 – 20 fferm. Yn y rhanbarthau lle ceir ffermydd organig ac anorganig, dewiswyd sampl o’r ddwy system ar hap. Mewn rhanbarthau “ffermio sy’n rhoi gwerth mawr ar natur” (ffermydd da byw pori arbenigol yn bennaf), cafodd mwy o ffermydd eu sgrinio, a chafodd ffermydd eu dewis ar hyd graddfa o ddwysedd da byw. Cafodd y dangosyddion eu mesur yn ôl protocol safonol. Yna, cafodd cymhwyster ehangach y dangosyddion craidd eu profi mewn tair astudiaeth achos yn Tiwnisia, Ukrain ac Uganda.